Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

1.    Mae’r papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am amrywiaeth o bynciau amaethyddol sy’n perthyn i bortffolio Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd.

Hynt y paratoadau ar gyfer rhoi’r PAC newydd ar waith

2.    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’n ffurfiol ei Gynllun Datblygu Gwledig (CDG) i’r Comisiwn Ewropeaidd (CE).  Disgwylir i’r trafodaethau amdano ddechrau ddiwedd mis Mai a phara efallai tan fis Tachwedd neu fis Rhagfyr.  Mae’r paratoadau’n mynd rhagddynt ar gyfer rhoi’r cynlluniau sy’n rhan o’r CDG ar waith.  Fe welwch fanylion y cynlluniau hyn ar wefan Llywodraeth Cymru: http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/farmingandcountryside/cap/ruraldevelopment/rural-development-plan-for-wales-2014-2020/documents-2014-2020/9067273/?skip=1&lang=cy

3.    Mae penderfyniadau ynghylch polisi ar gyfer pob agwedd ar Golofn 1 wedi’u cyflwyno i’r CE.  Anfonwyd canllawiau i hawlwyr ym mis Gorffennaf a bydd Taliadau Gwledig Cymru’n cyhoeddi cyfres o ganllawiau byr ar y trefniadau newydd.  Mae proses adolygu wedi’i sefydlu i ystyried ceisiadau i symud tir o un rhanbarth talu i’r llall.

4.     Disgrifiwyd ein cynlluniau ar gyfer Glastir mewn datganiad llafar i’r cyfarfod llawn ar 17 Mehefin: http://www.assemblywales.org/docs/rop_xml/140617_plenary_bilingual.xml. Bydd yn rhaid i’r CE gymeradwy’r cynigion o dan y CDG. Eu nod yw diogelu adnoddau naturiol Cymru i’r cenedlaethau i ddod, cefnogi twf gwyrdd a magu cydnerthedd diwydiannau amaeth a choedwigaeth Cymru gan roi gwerth eu harian i drethdalwyr Cymru.

Pynciau’r Diwydiant Amaeth

Prisiau Llaeth a Chig Eidion

5.     Yn ôl ffigurau amodol mis Mai 2014, mae cynhyrchiant llaeth y DU 8.0% (99m litr) yn uwch na llynedd.  Pris llaeth cyfartalog wrth gât y fferm yn y DU oedd 33.33cyl yn Ebrill, 0.39cyl (1.2%) yn is na phris mis Mawrth.  Roedd pris Ebrill 2014 3.22cyl (10.7%) yn uwch na phris Ebrill 2013.  Ym mis Mai 2014, roedd pris cyfartalog diesel coch, cost cynhyrchu allweddol, wedi codi 0.42cyl i 66.83cyl ers Ebrill 2014.

6.     Yn yr ychydig fisoedd diwethaf, mae pris cig eidion wedi gostwng yn sylweddol. Pris gwartheg tew yn ocsiynau Cymru yr wythnos yn diweddu 14 Mehefin oedd 177c/kg; rhyw 32c yn is na 12 mis yn ôl.  Pris pwysau marw eidion cyffredin o Brydain yr wythnos yn diweddu 14 Mehefin oedd 330c/kg, 70c yn is na’r un adeg yn 2013.  Gyda charcas eidion yn pwyso ar gyfartaledd 374kg, mae hyn gyfwerth â gostyngiad o £262.00 yng ngwerth carcas i’r cynhyrchydd.

7.     Mae nifer o resymau am y gostyngiad hwn yn y prisiau.  Er enghraifft, gwelwyd cynnydd mawr yn y cig eidion rhatach sy’n cael ei fewnforio o Weriniaeth Iwerddon yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn gan ansefydlogi marchnad cig eidion y DU.  Dengys ystadegau’r HMRC fod mewnforion o gig eidion o Iwerddon ym mhedwar mis cynta’r flwyddyn wedi cynyddu 15%.  Hefyd, mae allforion cig eidion Prydain yn ystod pedwar mis cynta’r flwyddyn dipyn is na ffigurau llynedd.  Mae’r gostyngiad mewn allforion ynghyd â’r cynnydd mewn cynhyrchiant a chynnydd sylweddol hefyd yn y mewnforion wedi arwain at wasgfa am i lawr ar brisiau cig eidion.

8.     Yng nghyfarfod Bwrdd Hybu Cig Cymru (HCC) ar 9 Mai, cytunwyd y byddai HCC yn cynnal adolygiad trylwyr o’r sector bîff dros y misoedd i ddod.  Bydd yr adolygiad yn pwyso a mesur cyflwr y sector yng Nghymru ac yn nodi ble mae yna gyfleoedd i ehangu a gwella. Bydd hefyd yn asesu gwendidau’r sector a’i bygythiadau ac yn edrych ar lefelau cynhyrchu ar y fferm ac o fewn y sector brosesu.

Cynigion yr UE ar gyfer Ffermio Organig

9.     Amcanion cynigion yr CE ar gyfer ffermio organig yw, ymhlith eraill, crisialu’r rheolau, cau’r bylchau deddfwriaethol, sicrhau cystadleuaeth deg ar gyfer ffermwyr a gweithredwyr, lleddfu gofidiau’r defnyddiwr, dileu eithriadau yn y rheolau, symleiddio’r system reoli a diwygio’r system fasnachu.

10.  Cyfrifoldeb yr Aelod-Wladwriaeth yw rheoliadau organig ac maent yn cael eu gweinyddu gan Defra ar ran y gwledydd datganoledig.  Mae swyddogion Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad clos â Defra i sicrhau bod llais i fuddiannau cynhyrchwyr organig Cymru ar fwrdd trafod yr CE.

Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol (AHVLA) a dyfodol labordai yng Nghymru

11.  Yn 2011, cyhoeddodd yr AHVLA ganlyniadau ei hadolygiad o’i gwasanaeth profion labordy.  Arweiniodd hynny at roi’r gorau i gynnal profion labordy yn y ddau labordy yng Nghymru, yng Nghaerfyrddin ac Aberystwyth.  Cadwyd y ddau safle ar agor ar gyfer cynnal archwiliadau post mortem i filfeddygon preifat a ffermwyr.

12.  Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer yr archwiliadau post mortem sy’n cael eu cynnal yn labordy’r AHVLA yn Aberystwyth ac nid yw bellach yn hyfyw parhau i gynnal gwasanaeth o’r fath. Mae safle’r AHVLA yn Aberystwyth yn cau yn 2014 fel rhan o brosiect Goruchwyliaeth 2014.  Rhoddwyd y gorau i gynnal profion post mortem ar y safle ym mis Mawrth 2013 a chafodd ei defnyddio fel canolfan i gasglu carcasau.  Daeth y gwasanaeth casglu hwn i ben ar 1 Medi 2014.

13.  Mae swyddogion yn gweithio gyda’r AHVLA a phartïon eraill i ystyried ailgyflwyno gwasanaethau ymchwilio milfeddygol yn Aberystwyth o dan ofal preifat neu drefniant di-elw.

Cynhyrchu Amaethyddol Dwys

Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r angen am fusnesau ffermio proffidiol a chryf sy’n cynhyrchu cynaliadwyedd er budd gwead economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol Cymru.  Trwy’r safonau Trawsgydymffurfio, rhaid i ffermwyr o bob maint a dull gydymffurfio â safonau Amgylcheddol, iechyd Cyhoeddus, Iechyd Planhigion, Iechyd Anifeiliaid a Lles Anifeiliaid y Gofynion Rheoli Safonol.  

Gwaith yr Athro Gareth Wyn Jones ar gynhyrchu amaethyddol

14.  Mae’r Athro Gareth Wyn Jones wedi cwrdd â rhanddeiliaid a sefydliadau yn y ddau fis diwethaf fel rhan o’i waith ar sgiliau amaethyddol.  Mae wedi adolygu nifer o adroddiadau sy’n berthnasol i’r adolygiad hwn sy’n benodol i Gymru ac adroddiadau ar lefel y DU.  Bydd yr adolygiad yn ystyried potensial Colegau Addysg Bellach allweddol sy’n darparu addysg amaethyddol i gymryd rhan mwy proactif i ddatblygu diwydiant amaeth proffidiol, byrlymus, mentrus a blaengar sy’n gallu cystadlu mewn byd fwyfwy cyfnewidiol.

Y Diweddaraf am TB Gwartheg

15.Mae egwyddorion bras y Rhaglen Dileu TB Gwartheg yn cael eu hamlinellu yn y ‘Fframwaith Strategol ar gyfer Dileu TB mewn Gwartheg’: http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/ahw/disease/bovinetuberculosis/bovinetberadication/tbstrategicframework/strategicframeworkfortberadication/?skip=1&lang=cy

16.Cymeradwyodd y Comisiwn Ewropeaidd Raglen Dileu TB Llywodraeth Cymru   fel rhan o Gynllun Dileu TB y DU sy’n cael ei ddiweddaru bob blwyddyn.  Er mai amcan tymor hir yw dileu TB, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith da tuag at sicrhau statws swyddogol i Gymru fel gwlad heb TB.

17.Nifer yr achosion newydd sydd wedi’u cofnodi ers Chwefror 2014 hyd yma yw’r isaf ar gyfer unrhyw rai o’r misoedd hyn o’r bron ers 2008.  Cafodd 5,936 o wartheg eu difa i reoli TB gwartheg rhwng Mehefin 2013 a Mai 2014 o’u cymharu ag 8,595 yn y 12 mis cyn hynny; gostyngiad o 31 y cant. (Y 12 mis blaenorol yw Mehefin 2012 – Mai 2013)

Lles Anifeiliaid

Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014

18.  Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014 ar 20 Mai.  Mae’r Rheoliadau’n sicrhau lefel uchel o amddiffyniad i les anifeiliaid trwy reolau cenedlaethol ac mae’n cynnwys rhanddirymiad sy’n caniatáu eithrio’r amodau ar gyfer stynio anifeiliaid adeg eu lladd er mwyn diwallu anghenion cymunedau ffydd.

19.  Roedd angen gwneud mân welliannau i’r ddeddfwriaeth ddomestig oherwydd newid cyfeiriad at “Dystysgrif Cymhwysedd” yn ein Rheoliadau ni.  Daethant i rym ar 5 Medi.

Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014

20. Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 a gyflwynwyd ym mis Mai, yn cynnwys â llawer o faterion yr oedd Llywodraeth Cymru am eu gweld ar gyfer rheoli cŵn.

21. Nid yw deddfwriaeth y DU yn rhoi’r un flaenoriaeth i berchenogaeth gyfrifol ar gŵn â’r polisi oedd yn sail i Fil Rheoli Cŵn (Cymru) Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried sut y dylai’r adolygiad o addysg a hyfforddiant ynghylch perchenogaeth gyfrifol fynd rhagddo yng Nghymru. 

 

Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau

22.Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda Defra i gydgyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru ac yn Lloegr.  Byddwn yn parhau i wasgu am y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth yn y DU. Nid yw wedi’i gynnwys eto’n ffurfiol yn rhaglen ddeddfwriaethol y Senedd.

Panel Cynghori Cymru ar Amaethyddiaeth

23.  Yn dilyn penderfyniad yr Uchel-lys bod Bil Sector Amaethyddol (Cymru) o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, derbyniodd y Bil y Cydsyniad Brenhinol ar 30 Gorffennaf 2014.  Bydd Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 yn cadw’r lefel bresennol o amddiffyniad i weithwyr amaethyddol yng Nghymru, gan hyrwyddo sgiliau gwell a phroffesiynoldeb a chyfrannu at gynaliadwyedd y sector amaethyddol.  Datblygwyd y Ddeddf yn unol â blaenoriaethau Gweinidogion a strategaethau ehangach Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Rhaglen Lywodraethu ac amcanion Hwyluso’r Drefn.

24.  Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sefydlu Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth fydd yn sail ar gyfer datblygu’r diwydiant amaeth.  Bydd y Panel yn cynghori Gweinidogion Cymru ar faterion amaethyddol fel cadw gweithwyr â chymwysterau da a denu talent newydd i’r sector yn ogystal â pharatoi Gorchmynion Cyflogau drafft a hyrwyddo sgiliau a llwybrau datblygu gyrfa o fewn y diwydiant.

25.Cafodd ymgynghoriad 12 wythnos yn gofyn i bobl am eu barn am waith a chyfansoddiad y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth ei lansio ar 7 Awst 2014.  I’w weld, ewch i: http://wales.gov.uk/consultations/environmentandcountryside/consultation-on-agricultural-advisory-panel-for-wales/?skip=1&lang=cy

 

26.Y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (CFP) a Chronfa Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF)

27.  Y brif fecanwaith ar gyfer cyflawni’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin newydd yng Nghymru yw Cronfa Môr a Physgodfeydd Ewrop.  Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau 8.4% o’r gronfa graidd ar gyfer Cymru sy’n cyfateb i ryw €12,222,467 dros gyfnod y rhaglen.  Mae hon yn fargen dda i Gymru, bydd yn rhoi’r CFP ar waith yn effeithiol  ac yn helpu i ddatblygu pysgodfeydd a dyframaeth gwyrdd a chlyfar yng Nghymru yn unol â gweledigaeth Cynllun Gweithredu Strategaeth y Môr a Physgodfeydd.  Mae gwaith yn mynd rhagddo i roi’r rhaglen ar waith a bydd yr EMFF yn agor ar gyfer ceisiadau yn gynnar yn 2015.

28.  Cyflwynodd yr CE gynigion yn ddiweddar ar gyfer gwahardd pysgota â rhwydi drifft yn nyfroedd yr UE.  Ceir pryderon am hyn a bydd Llywodraeth Cymru felly’n annog adolygiad o’r cynigion a allai gael effaith fawr ar bysgodfeydd arfordirol bach yn y DU.

Y Cynllun Gweithredu ar Fwyd

29. Cafodd ‘Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020’ ei lansio ar 12 Medi ac mae’n disgrifio’r cynigion sydd ar y gweill i gefnogi diwydiant bwyd a diod Cymru. http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/foodandfisheries/action-plan-for-food-and-drink/?skip=1&lang=cy

30. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad i sicrhau 30% o gynnydd yn y trosiant erbyn 2020.  Rhan ganolog y cynllun yw datblygu’r system helpu busnesau bwyd a diod, system sydd eisoes yn gweithio’n dda.  Bydd yn diwallu anghenion penodol cynhyrchwyr ac yn eu helpu i ddatblygu ac ehangu eu busnes.

31.  Rydym yn sefydlu Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.  Y Bwrdd fydd yn cynrychioli’r diwydiant ac yn hybu twf cynaliadwy.  Mae Mr Robin Jones, Pennaeth y Village Bakery, wedi’i benodi’n Gadeirydd dros dro y Bwrdd cysgodol a bydd yn dechrau cyn hir ar ddewis aelodau addas ar gyfer y Bwrdd o bob rhan o’r diwydiant.